Lisa Lân

Bûm yn dy garu lawer gwaith
Do lawer awr mewn mwynder maith
Bum yn dy gusanu Lisa gêl
Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl.

Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd
Tydi yw'r lanaf yn y byd
Tydi sy'n peri poen a chri
A thi sy'n dwyn fy mywyd i.

Pan fyddwy'n rhodio gyda'r dydd
Fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd
Wrth glywed swn yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa Lân.

Pan fyddwy'n rhodio gyda'r hwyr
Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr
Wrth glywed swn yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa lân.

Lisa, a ddoi di i'm danfon i
I roi fy ngorff mewn daear ddu?
Gobeithio ddoi di, f'annwyl ffrind
Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd. 


 
Land of Legends

Webpages  © 2001-2006 
Blue Knight Production


Now playing;   "Lisa Lân"
Midi © Barry Taylor
Welsh Flying Flag  copyright © 1996 - 2003 by 
Riad Dagher